| Roedd Y Bala angen ennill y gem yma i gael unrhyw obaith o osgoi y gem ail gyfle a gwneud hyn wnaethant yn gyfforddus yn erbyn tim gwan o Bwllheli.
Gyda ambell i gamgymeriad yn yr hanner cyntaf Y Bala a gychwynnodd yn dda ac o fewn dau funud mynd ar y blaen drwy gic cosb gan Elgan Jones. Gwella wnaeth perfformaid yr hogia drwy gydol yr hanner ac erbyn y toriad roedd Geraint Rowlands a Brian Roberts wedi sgorio ceisiau i gael y sgor ar yr hanner yn 13 i 0 ir Bala.
Bala oedd y tim ar dan yn yr ail hanner a bu sgorio tri cais arall gan Gareth Williams, Ifan Hughes ac Euros Jones, Elgan Jones yn ychwanegu un cic cosb arall i wneud y sgor terfynnol yn 31 i 0 ir Bala.
Gem adref olaf y tymor yn erbyn Bae Colwyn heno ma. |