Match Report
Bala 7 - 25 Ruthin (H)
Report
Roedd Rhuthun yn dal i frwydro i ennill y gyngrhair ac angen y pump pwynt or gem yma a felly roedd disgwyl gem galed a chorfforol. Roedd y chwarae yn yr hanner cyntaf yn eitha cyfartal gyda Rhuthun yn sgorior cais cyntaf ond yn methur trosiad. Yn syth or ail gychwyn Meilir Fon yn rhedeg i fynnyr cae ac yn sicrhau pel cyflym ir cefnwyr a John Emrys yn sgorio cais yn y gornel. Cic wych gan Elgan Jones yn rhoi Bala ar y blaen o 7 i 5. Rhuthun yn sgorio o gic cosb cyn diwedd yr hanner ar sgor yn mynd i mewn ir egwyl yn 8 i 7 i Rhuthun. Stori wahanol yn yr ail hanner wrth ir gwrthwynebwyr feistroli y rhan fwyaf or chwarae ac yn sgorio dau gais arall, un wedi ei drosi. Hogiar Bala yn pwyso yn ddi dor yn y munudau olaf er mwyn cael y pwynt bonws am golli o saith pwynt neu lai ond y sumudiad yn torri i lawr ar yr eiliad olaf pan rhyng-gipiodd cefnwr Rhuthun y bel a rhedeg hyd y cae i sgorio eu pedwerydd cais a felly sicrahu y pump pwynt. Y sgor ar y diwedd yn 25 i 7 i Rhuthun. Maer ddwy gem olaf or tymor yn cael eu chwarae ar Faes Y Gwyniad ar Nos Fercher 29 ain o Ebrill am 7 or gloch ac yna yr wythnos wedyn ar y Nos Fercher y 6ed o Fai am 7 or gloch. Maer hogia angen pob cymorth ir ddwy gem adref yma felly dowch draw a dowch a phawb or stryd ar teulu hefyd i weiddi a rhoi hwb iddynt. Fedrwch fentro bu nifer o gefnogwyr Pwllheli a Bae Colwyn yma i weiddi. Beth am ddangos iddynt fod mwy o gefnogwyr swnllyd yn Y Bala.