| Ar ol curo Dolgellau wythnos diwethaf hogiar Bala oedd y ffefrynau i guror tim ar y gwaelod, Llanidloes. Dim ond un gem mae Llanidloes wedi eu hennill drwyr tymor ac hynny yn erbyn Y Bala ac eu bwriad nhw y prynhawn ma oedd mynd am ail buddugoliaeth. Hefo llawer o gamgymeriadau gan y ddau ochr Llanidloes ar y blaen ar yr hanner drwy un cic gosb.
Ail hanner gwell i dim Maes y Gwyniad unwaith eto wrth I George Davies agor y sgor ir tim cartref wrth sgorio cais wych arall, Elgan Jones yn trosi. Pwyso da gan yr hogia am amser wrth linell Llanidloes ond er i gefnwr y gwrthwynebwyr daror bel ymlaen yn fwriadol dim ond cic gosb a ganiatawyd. Symudiad sydyn yn lle mynd am y gic a Brian Roberts yn croesi am gais arall. Dal i bwyso bu Y Bala ond ar ol cerdyn melyn i Arron Jones, Llanidloes yn gweld eu cyfle ac yn bygwth llinell bump y tim cartref tan diwedd y gem, ond yr amddiffyn yn gwneud eu gwaith yn dda, y sgor ar y diwedd yn 12 i 3 ir Bala.
|